Cyngerdd ar y cyd gyda Band Chwyth Harmonie

Mae Côr Cymraeg Coventry wedi cael gwahoddiad i gymryd rhan mewn digwyddiad codi arian yn Solihull ym mis Tachwedd. Mae Band Chwyth Harmonie yn codi arian ar gyfer bwrsariaeth i anrhydeddu eu harweinydd a fu farw yn ddiweddar. Bydd y fwrsariaeth yn cael ei defnyddio i ddarparu gwersi cerdd i blentyn lleol sy’n dangos addewid ond nad yw ei deulu’n gallu fforddio gwersi.

Cynhelir y cyngerdd yng Nghanolfan Gymunedol y Three Trees, Chelmsley Wood, ar nos Wener Tachwedd 25ain am 7pm.