Cymanfa Codi’r Tô

Ar nos Fawrth oer ym mis Chwefror mi fwynheuom Cymanfa Codi’r Tô (noson o ganu tafarn yn y Gymraeg) yn Nhafarn y Feithrinfa. Felly mi ddarparom daflenni caneuon a thaflenni cordiau a falch iawn yr ydym o ddweud wnaeth pawb y dafarn a’n ffrindiau cerddorol ymuno’n frwd. Gawsom i gyd lawer o hwyl a chanom rhai o’n hoff ganeuon Cymraeg, o emynau i siantïau môr. Mi oedd ‘na gwrw gwych ac awyrgylch cymunedol rhagorol fel bob amser yn y Feithrinfa.