Cymdeithas Athletau Gaeleg St Finbarr

Côr at Finbarr's

Dyma ni yng Nghlwb GAA St Finbarr nos Sul diwethaf lle buon ni’n canu rhai o blygain, cwpl o siantïau môr, a rhai o’r clasuron. Cawsom amser gwych a chroeso cynnes iawn gan dorf fywiog iawn a oedd newydd ddod o wylio Wasps yn erbyn Munster yn y Ricoh! Roedd cael caniatâd i gael diod wrth i ni berfformio yn bendant wedi helpu gyda’r lleisiau – wel roedden ni’n meddwl hynny beth bynnag!