Dydd Gŵyl Dewi!

Am beth mae’r digwyddiad?

Noson o ganu Cymraeg wedi’i threfnu ymlaen llaw i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi ydy hi. Mae croeso i bawb. Nid perfformiad neu gig neu gyngerdd ydy o, dim ond pobl yn canu rownd y bwrdd yn y dafarn – pobl fel chithau! Dewch i roi cynnig arni, i ymuno neu i wrando.

Ond dydw i ddim yn gwybod y geiriau

Ninnau ychwaith! Bydd taflenni geiriau ar gael ar y noson. Byddwch yn codi rhai cytganau yn eithaf hawdd a gallwn hyd yn oed ddysgu rhai caneuon i chi ymlaen llaw os ydych yn wirioneddol awyddus!!

Ond dwi ddim yn gwybod dim Cymraeg

Nid yw hynny’n broblem, does neb yn gwrando i weld a ydych chi’n cael y geiriau neu’r alawon yn gywir, mae’n llawer o hwyl rhoi cynnig arni. Mae fel canu mewn gêm bêl-droed, does neb yn gwirio.

Dw i ddim yn gallu canu o gwbl/ddim yn ffansio canu y tro hwn

Mae hynny’n iawn, does dim rhaid i chi gymryd rhan. Rydym yn croesawu unrhyw un a hoffai ddod i fwynhau’r awyrgylch.

Gaf i ddod ag offeryn a chwarae gyda chi?

Cewch, wrth gwrs, mae croeso mawr i chi ddod ag offeryn a chwarae gyda chi. Bydd taflenni cordiau ar gael i gitaryddion.

Os byddaf yn dod â’m gitâr/offeryn arall gaf i ganu neu chwarae rhywbeth fy hun?

Syniad y noson yw rhoi llwyfan i ddiwylliant Cymru. Os ydych chi’n gwybod rhywbeth Cymreig – naill ai yn yr iaith Gymraeg neu gysylltiad â Chymru, neu alaw werin Gymreig neu efallai fersiwn clawr gan artist Cymreig, ewch ymlaen!

Oes rhaid iddo fod yn gerddoriaeth?

Nac oes, mae’n gallu gall fod yn unrhyw beth, yn stori, yn gerdd, yn anecdot, yn fara brith, yn unrhyw beth o gwbl.

A fydd unrhyw gyfleoedd i ddysgwyr Cymraeg ymarfer eu Cymraeg?

Bydd, mi fydd yna ddysgwyr Cymraeg eraill yno ac efallai un neu ddau o siaradwyr iaith gyntaf hefyd, felly rhowch gynnig arni.

Oes rhaid i mi archebu?

Nac oes dim ond dewch, ac mae mynediad am ddim.