Gigs i ddod 28 a 29 Awst

Mae gynnon ni ddau gig awyr agored yn ddiwedd mis Awst ac rydyn ni’n edrych ymlaen aton nhw yn fawr iawn.

Ar ddydd Sadwrn y 28fed o Awst dan ni’n perfformio mewn gŵyl hyfryd o’r enw Beneath The Trees, rhan o raglen Dinas Diwylliant Coventry, ym Mharc Melyn Naul (Coundon St, Coventry CV1 4AR) yn agos at ganol y ddinas. Dydyn ni ddim yn sicr pa amser fyddwn ni ar y llwyfan eto, ond mae’r ŵyl gyfan yn para o 12 tan 8pm, felly dewch i lawr am gymaint o’r dydd ag y gallwch chi! Mi fydd yn anhygoel, ac mae Parc Melin Naul yn berl cudd bach hardd. Tocynnau sy am ddim.

Ac ar ddydd Sul, y 29fed o Awst, rydym yn ôl ar waith mewn gŵyl awyr agored hyfryd arall (am ddim hefyd) o’r enw Generate. Mae’r un hon yn Ysgol Côt Las, ar ochr arall maes parcio yr ysgol. Byddwn ni’n perfformio am 3.20 ond mae’r adloniant yn para rhwng 2.30 a 5 o’r gloch. Bob dyddiau Sadwrn a Sul mae adloniant ar yr un amseroedd tan ddydd Llun Gŵyl y Banc, felly dewch i lawr gymaint o weithiau ag y dymunwch!

This image has an empty alt attribute; its file name is image-1024x682.png
This image has an empty alt attribute; its file name is image-1-732x1024.png