Canu yn y Stryd

Mi gafodd y bechgyn gynnig ar ganu yn y stryd yng Nghanol Dinas Coventry heddiw! Roedd yn brofiad tro cyntaf i rai ohonom, er nad pob un. Fe fuon ni gasglu ar gyfer Lloches Nos Tŷ Heddwch Coventry. Profiad pleserus iawn oedd hi er ei fod braidd yn oer a gwyntog, ac ar ôl awr roeddem yn falch iawn o fynd am baned o goffi!