Hwrê am Gei Caernarfon

Cartref » Repertoire » Hwrê am Gei Caernarfon

Alaw traddodiadol, geiriau J. Glyn Davies.

Geiriau

‘Rôl cyfri’r dyddiau i gyd bob un:
Aia ac aio!
Hwrê am fy ngwlad a fy nghartre fy hun:
Hwrê am Gei Caernarfon!
Ac aia, aio! Cenwch hai ac aio!
Gwell gen i na phunt gael clywed y gwynt:
Hwrê am Gei Caernarfon!

Mor ara deg y mae bysedd a cloc:
Aia…
Mae hi’n barod ers meityn i adael y doc:
Hwrê am…

Hwrê! Dyma’r Capten yn cymryd comand,
Tan weiddi fel porchell ac edrych yn grand.

O, chwi ar y Cei, y mae gwynt dros y tir;
Gollyngwch bob rhaff i’w gollwng yn glir.

Pob bár yn y capstan i’w warpio i’r môr;
Mae gwenau ar wep yr hen Gomandôr.

Am y cyntaf i’r iardiau fel gwiwer neu’n gynt;
O’r diwedd cawn ollwng yr hwyliau i’r gwynt.

Mae rhaff ar y blaen ac mi wyddoch bawb hyn,
Fod merched bach Cymru’n ei thynnu hi’n dynn.

Cyfieithiad i’r Saesneg