Words
Daeth cennad o’r Nef i Fethlehem dref
I draethu’r newyddion hael
Fod Ceidwad a Brawd yn Faban tylawd
Yn gorwedd mewn beudy gwael,
Ac wele Ef, Tywysog Nef,
Eneiniog mawr y Tad,
Ym mreichiau Mair ar wely o wair
Yn isel ei ystad.
Ffynhonnell yr Iawn yn eiddil a gawn
Ar fronnau Mareia lon;
Rhyfeddod o hyd gweld Iachawdwr y byd
Yn faban ar liniau hon!
Cydgenwch gân, angylion glân,
I foli Aer y Nef:
I’n gwared o’n loes trwy farw ar groes
O’i lys disgynnodd Ef.
Gogoniant i’r Tad a roddws ei Fab
Yn bridwerth trosom ni.
Ein cadw fe all rhag poeni y Fall
Drwy rinwedd Calfari.
Hosanna sy yn llonni’r llu
Uwch meysydd Bethlehem;
Yn fychan a mawr, holl deulu y llawr,
Moliannwn Ef. Amen.
Translation
A messenger came from Heaven to Bethlehem town
To declare the good news
That a Savoiur and Brother as a poor Baby
Was lying in a lowly stable,
And see Him, Prince of Heaven,
Greatly anointed of the Father,
In the arms of Mary on a bed of straw
Low in his estate.
The source of Righteousness frail we find
On the breast of joyful Maria;
A wonder still to see the Saviour of the world
As a baby on her lap!
Sing a song together, pure angels,
To praise the Heir of Heaven:
In order to deliver us from pain by dying on the cross
He descended from His court.
Glory to the Father who gave his Son
As a dowry for us.
To protect us he can from the pains of Evil
Through the virtue of Calvary.
Hosanna is cheering the host
Above the fields of Bethlehem;
The small and large, the whole family of earth,
Let us praise Him. Amen.
Translation source: https://caneuongwerin.wordpress.com/tag/folk/page/2