Hiraeth

Cartref » Repertoire » Hiraeth

Cerddoriaeth a geiriau traddodiadol, trefniant gan Brian Hughes.

Byddai’r gair hiraeth yn berthnasol i lawer o Gymry a oedd yn gorfod gadael Cymru i weithio neu drwy dlodi neu ddiffyg cyfle. Ond rhwng 1870 a 1914, dychwelodd tua 40% o ymfudwyr o Gymru i Gymru, cyfran lawer uwch nag o rannau eraill o Brydain ac efallai mai hiraeth a’u tynnodd yn ôl, neu agosrwydd y bond rhwng y Cymro/Cymraes a’u hardal (cynefin).

Geiriau

Dwedwch fawrion o wybodaeth
O ba beth y gwnaethpwyd hiraeth;
A pha ddefnydd a roed ynddo
Na ddarfyddo wrth ei wisgo?

Hiraeth mawr a hiraeth creulon,
Hiraeth sydd yn torri ‘nghalon.
Pan fwyf dryma’r nos yn cysgu,
Fe ddaw hiraeth ac a’m deffry.

Derfydd aur a derfydd arian;
Derfydd melfed, derfydd sidan.
Derfydd pob dilledyn helaeth,
Eto er hyn, ni dderfydd hiraeth.

Hiraeth, hiraeth mawr.

Cyfieithiad i’r Saesneg

Say you, great people of knowledge
Of what thing is longing made;
And what material was put into it
That it does not fade when it is worn?

Great longing and cruel longing,
(It is) longing which is breaking my heart.
When most heavily by night I sleep,
Longing comes and awakens me.

Gold wears out and silver wears out,
Velvet wears out, silk wears out,
Every ample garment wears out,
Still, despite this, longing does not wear out.

Longing, great longing.