Alaw Landore John Hughes, geiriau gan Daniel James (Gwyrosydd), trefniaeth gan Edmund Walters.
Wedi’i ysgrifennu’n wreiddiol fel emyn, mae Calon Lân i’w glywed yn aml mewn gemau rygbi a phêl-droed ac unrhyw le arall lle mae esgus i’w ganu. Y fersiwn gan Only Boys Aloud ar Britain’s Got Talent yw’r fideo Cymraeg a wylir fwyaf ar YouTube.
Cyfansoddodd Landore John Hughes (1872-1914) dôn Calon Lân i eiriau Daniel James ar gais James. Cyfansoddodd Hughes lawer o alawon emynau eraill hefyd. Bu’n gweithio yng Ngwaith Dur Dyffryn ym Morriston ar gyfer ei yrfa gyfan, gan deithio’n rhyngwladol gyda’r cwmni ac yn y broses dysgodd chwe iaith iddo’i hun ar wahân i’w Gymraeg frodorol. Gwasanaethodd fel organydd yng Nghapel Bedyddwyr Cymraeg Caersalem Newydd lle cafodd ei gladdu.
Roedd Daniel James (1848-1920), a oedd hefyd yn cael ei adnabod wrth ei enw barddol Gwyrosydd, yn fardd ac yn emynydd o Dreboeth, Abertawe. Gweithiodd yng ngwaith Morriston Ironworks a Landore Tinplate ymhlith cwmnïau eraill. Cyhoeddwyd ei farddoniaeth a’i emynau mewn papurau newydd, cyfnodolion a chasgliadau. Claddwyd ym Mynwent Mynyddbach. Calon Lân yw ei emyn mwyaf poblogaidd.
Ganed Edmund Walters (1931-2003) yn Aberdaugleddau. Yn y 1960au daeth yn Bennaeth Cerdd yng Ngholeg I. M. Marsh Lerpwl a Meistr Corws yng Nghymdeithas Ffilharmonig Frenhinol Lerpwl. Cyfansoddodd yn llwyddiannus ar gyfer y gymdeithas, yn enwedig carolau Nadolig, a darlledwyd ei gyngherddau ar y BBC a’u recordio, a pherfformiodd ei gyfansoddiadau ledled y byd.
Edmund Walters (1931-2003) was born in Milford Haven. In the 1960s he became was Head of Music at I. M. Marsh College Liverpool and Chorus Master at the Royal Liverpool Philharmonic Society. He composed successfully for the society, especially Christmas carols, and his concerts were broadcast on the BBC and recorded, and his compositions performed world wide.
Ffynonellau
https://en.wikipedia.org/wiki/John_Hughes_(1872-1914)
https://en.wikipedia.org/wiki/Calon_Lân
https://en.wikipedia.org/wiki/Daniel_James_(Gwyrosydd)
https://britishmusiccollection.org.uk/composer/edmund-walters
Geiriau
Nid wy’n gofyn bywyd moethus,
Aur y byd na’i berlau mân:
Gofyn wyf am galon hapus,
Calon onest, calon lân.
Calon lân yn llawn daioni,
Tecach yw na’r lili dlos:
Dim ond calon lân all ganu
Canu’r dydd a chanu’r nos.
Pe dymunwn olud bydol,
Hedyn buan ganddo sydd;
Golud calon lân, rinweddol,
Yn dwyn bythol elw fydd.
Hwyr a bore fy nymuniad
Gwyd i’r nef ar adain cân
Ar i Dduw, er mwyn fy Ngheidwad,
Roddi i mi galon lân.
Cyfieithiad i’r Saesneg
I don’t ask for a luxurious life,
The world’s gold or its fine pearls:
I ask for a happy heart,
An honest heart, a pure heart.
A pure heart full of goodness,
Is more lovely than the pretty lily:
Only a pure heart can sing –
Sing day and night.
If I wished worldly wealth,
It would soon go to seed;
The riches of a virtuous, pure heart,
Will bear eternal profit.
Late and early, my wish
Rising to heaven on wings of song,
For God, for the sake of my Saviour,
To give me a pure heart.
Ffynhonnell y cyfieithiad: https://en.wikipedia.org/wiki/Calon_Lân